Finance CommitteeY Pwyllgor Cyllid
|
|
|
At Bobl i Ymgynghori â hwy
|
|
Bae Caerdydd Caerdydd CF99 1NA
2 Chwefror 2012
|
Galwad am dystiolaeth – Benthyca darbodus a dulliau arloesol o ddefnyddio arian cyfalaf.
Mae’r Pwyllgor Cyllid yn galw am wybodaeth a fydd o gymorth i lywio ei ymchwiliad i ddefnyddio dulliau benthyca darbodus a dulliau arloesol o ddefnyddio arian cyfalaf gan awdurdodau lleol a sefydliadau eraill yng Nghymru. Bydd ein canfyddiadau’n cael eu rhannu â Chomisiwn Silk, i’w gynorthwyo yn ei waith ar atebolrwydd ariannol.
Cylch gorchwyl yr ymchwiliad
Diben yr ymchwiliad hwn yw ystyried agweddau ar gyllido ac ariannu datganoli yng Nghymru gyda golwg ar lywio Rhan 1 o adroddiad Comisiwn Silk. Bydd y Pwyllgor yn ymchwilio i’r ddau fater penodol a ganlyn:
· I ba raddau y gellid rhoi pwerau benthyca i Lywodraeth Cymru, gan edrych ar wersi a ddysgwyd o brofiad awdurdodau lleol yn sgîl eu pwerau benthyca cyfredol; ac
· Ystyried dulliau arloesol y gellid eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru i ysgogi arian cyfalaf ar gyfer prosiectau seilwaith, heb effeithio’n negyddol ar floc Cymru, gan gynnwys i ba raddau y byddai modd defnyddio pwerau benthyca cyfredol awdurdodau lleol a sefydliadau eraill.
Byddai’r Pwyllgor yn croesawu eich barn ar rai o’r pwyntiau a ganlyn neu bob un:
¡ y camau a gymerwyd gan awdurdodau lleol i benderfynu ar eu terfynau benthyca darbodus ac i gadw golwg ar y terfynau hynny, a sut y gwneir hyn;
¡ lefelau amrywiol benthyca darbodus a ddefnyddir gan awdurdodau lleol yng Nghymru ac unrhyw resymau dros y gwahaniaethau hynny;
¡ trosolwg o natur y prosiectau lle y defnyddiwyd benthyca heb gefnogaeth, ac a oes rhesymau penodol dros hyn;
¡ gwersi a ddysgwyd gan awdurdodau lleol am fenthyca darbodus gan gynnwys effaith ad-daliadau yn y tymor hir;
¡ sut y gellid defnyddio benthyca awdurdodau lleol i roi hwb i faint y cyfalaf sydd ar gael ar gyfer seilwaith Cymru;
¡ unrhyw gamau eraill a ystyrir gan awdurdodau lleol i ariannu gwariant cyfalaf;
¡ dulliau eraill o ysgogi arian cyfalaf a ystyrir gan Lywodraeth Cymru wrth baratoi ei Chynllun Seilwaith gan gynnwys y posibilrwydd o roi hwb i fenthyca gan awdurdodau lleol a sefydliadau eraill;
¡ ymchwilio i ddulliau cyfalaf arloesol a gynigwyd mewn rhannau eraill o’r DU, sut y cawsant eu datblygu a’u defnyddio, a phan fo’n bosibl, sut y maent wedi perfformio.
Darparu gwybodaeth i’r Pwyllgor
Gwahoddir pawb sydd â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i Glerc y Pwyllgor Cyllid yn y cyfeiriad uchod, i gyrraedd erbyn dydd Iau, 1 Mawrth 2012. Os ydych am gyfrannu ond yn pryderu na allwch wneud hynny erbyn y dyddiad cau, mynnwch air â Chlerc y Pwyllgor ar y rhif 02920 898597.
Os yw’n bosibl, anfonwch gopi electronig mewn fersiwn Word neu fformat Rich Text, drwy e-bost i’r cyfeiriad a ganlyn PwyllgorCyllid@cymru.gov.ukerbyn dydd Iau, 1 Mawrth 2012.
Datgelu gwybodaeth
Dylai tystion fod yn ymwybodol y caiff unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynir i’r Pwyllgor ei thrin fel eiddo’r Pwyllgor.
Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg a Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â pholisïau / Cynlluniau Iaith ddarparu cyfraniadau dwyieithog, yn unol â’u polisïau gwybodaeth i’r cyhoedd.
Bwriad y Pwyllgor yw cyhoeddi tystiolaeth ysgrifenedig ar ei wefan, ac efallai y caiff darnau ohoni eu cynnwys wedyn yn yr adroddiad. Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi gwybodaeth a ystyrir yn ddata personol ac eithrio barn bersonol a data personol sy’n ymwneud â chi fel awdur y dystiolaeth, a’r rôl rydych yn darparu tystiolaeth ynddi (er enghraifft, teitl swydd), os yw hynny’n berthnasol.
Fodd bynnag, os ceir cais am wybodaeth (sy’n cynnwys data personol) a gyflwynwyd o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, efallai y bydd angen datgelu gwybodaeth bersonol a ddarperir gennych chi, yn llawn neu’n rhannol. Gall hyn gynnwys data personol a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi (fel y disgrifir yn y paragraff uchod.
Os byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, neu eich bod chi, fel awdur y dystiolaeth, am beidio datgelu pwy ydych, eich penderfyniad chi yw nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a rhoi dadl resymol dros hyn. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth.
Mae rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Cyllid a’i alwad am wybodaeth i’w chael drwy fynd i: www.cynulliadcymru.org
Jocelyn Davies
Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid
Annex 1
Welsh Government |
Colleges Wales |
The Princes Trust |
Wales Council for Voluntary Action |
Bevan Foundation |
Cymru Yfory |
Economic and Social Research Council |
Joseph Rowntree Foundation |
Jobcentre Plus |
Finance Wales |
Big Lottery Fund |
Hyfforddiant Parys Training |
Careers Wales Association |
Cyrenians Cymru |
Wales Co operative Centre |
Remploy Limited |
Regeneration Investment Fund for Wales LLP |
Cymdeithas Tai Eryri |
Forestry Commission Wales |
Menter Mon |
Chwarae Teg |
UK Steel Enterprise Limited |
Parc Busnes Treorci |
Sustrans |
Higher Education Funding Council for Wales |
Countryside Council for Wales |
Skills for Justice |
Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn |
Waste and Resources Action Programme |
Constructing Excellence in Wales |
National Trust |
Coalfields Regeneration Trust |
Wales Co-operative Centre |
Pakistan Association of Newport & Gwent Welsh Asian Council |
|
Local Authorities |
Blaenau Gwent County Borough Council |
Bridgend County Borough Council |
Caerphilly County Borough Council |
Cardiff County Council |
Carmarthenshire County Borough Council |
Ceredigion County Council |
City and County of Swansea |
Conwy County Borough Council |
Denbighshire County Borough Council |
Flintshire County Borough Council |
Gwynedd Council |
Isle of Anglesey County Council |
Merthyr Tydfil County Borough Council |
Monmouthshire County Borough Council |
Neath Port Talbot County Council |
Newport City Council |
Pembrokeshire County Council |
Powys County Council |
Rhondda Cynon Taff County Borough Council |
Torfaen County Borough Council |
Vale of Glamorgan Council |
Wrexham County Borough Council |
|
Further Education Colleges |
Barry College |
Bridgend College |
Coleg Ceredigion |
Coleg Glan Hafren |
Coleg Gwent |
Coleg Harlech |
Coleg Llandrillo Cymru |
Coleg Menai |
Coleg Morgannwg |
Coleg Powys |
Coleg Sir Gâr |
Deeside College |
Gower College Swansea |
Llysfasi College |
Merthyr Tydfil College |
Neath Port Talbot College |
Pembrokeshire College |
St David's Catholic College |
Yale College Wrexham |
Ystrad Mynach College |
|
Official Agencies |
Care Council for Wales |
Children's Commissioner for Wales |
Older People’s Commissioner for Wales |
Equality and Human Rights Commission |
Health and Safety Executive |
Wales Audit Office |
Welsh Language Board |
Welsh Local Government Association |
|
Universities |
University of Wales |
Aberystwyth University |
Swansea University |
University of Glamorgan |
Bangor University |
Cardiff Business School |
|
Other |
CBI Wales/Cymru |
Alliance of Sector Skills Councils Wales |
Wales TUC |
Federation of Small Businesses |
Venture Wales |
NESTA |
Housing Organisations
|
All Wales Chief Housing Panel (AWCHOP) |
All Wales Housing Technical Panel |
Age Cymru |
Agorfa Cefni |
Cadwyn Housing Association |
Caerphilly CBC |
Cardiff Council |
Ceredigion Rural Housing Enabler |
Chartered Institute of Housing Cymru |
Citizens' Advice Bureau |
Community Housing Cymru |
Council of Mortgage Lenders |
Cymdeithas yr laith Gymraeg |
Cymorth Cymru |
Diverse Cymru |
GENuS Consortium |
Home Builders Federation |
Landlord Accreditation Wales |
Leadbitter Western Housing Division |
Mid Powys Rural Housing Enabler |
Mid-Wales Housing Association |
National Landlords Association |
NEA Cymru |
Pembrokeshire Coast National Park Authority |
Pembrokeshire Housing |
Principality Building Society |
Professor Steve Wilcox |
Royal Institution of Chartered Surveyors |
Royal Town Planning Institution Cymru |
Savills (L&P) Limited |
Seren Group |
Shelter Cymru |
Snowdonia National Park Authority |
The National Homelessness Network |
The Wallich |
TPAS Cyrmu |
Wales Co-operative Centre |
Welsh Tenants Federation |